Darllen yn Well i deuluoedd

Mae Darllen yn Well i deuluoedd yn argymell darllen i gefnogi rhieni a gofalwyr i ofalu am eu lles yn ystod beichiogrwydd a’r blynyddoedd cynnar (o’r beichiogi i ddwy oed). Mae’r cynllun wedi’i anelu at oedolion ac mae’n cynnwys ystod o lyfrau a argymhellir ac adnoddau digidol cefnogol. Mae rhai o’r llyfrau a argymhellir yn darparu gwybodaeth a chyngor; mae yna hefyd straeon personol, llyfrau darluniadol a barddoniaeth.
Mae’r rhestr lyfrau wedi’i thargedu at rieni, gofalwyr ac unrhyw un sy’n cefnogi pobl o feichiogrwydd ymlaen.
Chwiliwch am y llyfrau Darllen yn Well i deuluoedd yn eich llyfrgell leol – maen nhw ar gael i’w benthyg am ddim.
Mae llawer o deitlau hefyd ar gael i’w benthyg fel e-Lyfrau a llyfrau llafar. Darganfyddwch sut i ymuno â’r llyfrgell a chael mynediad at lyfrau, e-Lyfrau a llyfrau llafar trwy wefan eich llyfrgell leol.
Cymru
Mae ein trosolwg dwyieithog o deitlau a thaflen ddigidol ddwyieithog ar gael i’w lawrlwytho am ddim.
Yng Nghymru, mae’r casgliad Darllen yn Well i deuluoedd yn cynnwys teitl ychwanegol sydd ar gael yn Gymraeg yn unig (Darn Bach o’r Haul, gol. Rhiannon Williams).
I gael rhagor o wybodaeth am Darllen yn Well i deuluoedd, gweler ein Cwestiynau Cyffredin.
Lloegr
Mae ein trosolwg o deitlau a thaflen ddigidol ar gael i’w lawrlwytho am ddim.
Categorïau’r rhestr lyfrau
Dod yn deulu – Eich lles

The Little Book of New Mum Feelings
Anna Mathur
Title available in English only / Teitl ar gael yn Saesneg yn unig

Nobody Told Me: Poetry and Parenthood
Hollie McNish
Title available in English only / Teitl ar gael yn Saesneg yn unig

The Queer Parent: Everything You Need to Know From Gay to Ze
Lotte Jeffs a Stuart Oakley
Title available in English only / Teitl ar gael yn Saesneg yn unig
Adnoddau digidol
Canllaw Beichiogrwydd GIG Cymru
Canllaw GIG Cymru ar bopeth sydd angen i chi ei wybod ynghylch ceisio am fabi, beichiogrwydd, esgor a genedigaeth, eich baban newydd-anedig, babanod a phlant bach.
Mae’r ʽTaflenni Ffeithiau Tadolaeth’ yn darparu gwybodaeth i dadau ar bynciau gan gynnwys gofalu am eich iechyd, dynion a cholli baban.
Best Beginnings: Baby Buddy App
Mae’r ap Baby Buddy yn cynnwys dulliau hunanofal i gefnogi a grymuso mamau, tadau a gofalwyr ac i ddatblygu eu gwybodaeth a’u hyder, a’u helpu i ofalu am eu hiechyd corfforol a meddyliol yn ystod beichiogrwydd, genedigaeth a blwyddyn gyntaf bywyd eu babi.
Ar gael i’w lawrlwytho am ddim o Google Play (Android) ac App Store (iOS).
Llywodraeth Cymru: Magu plant. Rhowch amser iddo.
Awgrymiadau ymarferol a chyngor arbenigol, am ddim, ar gyfer eich holl heriau magu plant.
Iechyd meddwl

Sut i Helpu Rhywun ag Iselder Ôl-enedigol
Dr Jenn Cooper

Hello Baby, Goodbye Intrusive Thoughts
Jenny Yip
Title available in English only / Teitl ar gael yn Saesneg yn unig

My Black Motherhood: Mental Health, Stigma, Racism and the System
Sandra Igwe
Title available in English only / Teitl ar gael yn Saesneg yn unig

Be dwi wedi’i wneud?: Bod yn Fam, Iechyd Meddwl a Fi
Laura Dockrill
Adnoddau digidol
Coleg Brenhinol y Seiciatryddion
Gwybodaeth am amrywiaeth o bynciau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl a lles cyn, yn ystod ac ar ôl beichiogrwydd.
Maternal Mental Health Alliance
Gwybodaeth a chefnogaeth i fenywod a theuluoedd y mae problemau iechyd meddwl amenedigol yn effeithio arnynt.
Gwybodaeth a chymorth i deuluoedd a’u rhwydweithiau a allai fod yn dioddef o salwch meddwl amenedigol, gan gynnwys iselder cyn-geni (cynenedigol) ac iselder ôl-enedigol.
Gwasanaeth archebu galwad ffôn am ddim ar wefan PANDAS.
Gwasanaeth Cymorth Negeseuon WhatsApp: 07903 508334 (Llun – Sul: 8am – 10pm)
Action on Postpartum Psychosis
Gwybodaeth a chefnogaeth i famau a theuluoedd y mae seicosis ôl-enedigol yn effeithio arnynt.
Gwybodaeth a chefnogaeth i famau a’u teuluoedd y mae OCD amenedigol yn effeithio arnynt.
Gwybodaeth a chefnogaeth i fenywod a theuluoedd sydd wedi cael genedigaeth drawmatig.
Ffôn: 0203 621 6338
SilverCloud Wales: Gofod ar gyfer rhaglen Llesiant Amenedigol
Rhaglen ar-lein a hyrwyddir gan GIG Cymru i’ch helpu i ddysgu technegau i reoli symptomau hwyliau isel a gorbryder yn ystod y cyfnod amenedigol.
Ymdopi â cholled

Dy Garu Di o Fama: Straeon am Alar, Gobaith a Thyfu ar ôl Colli Babi
Sands gyda Susan Clark

Sut i Helpu Rhywun ar ôl Colli Babi
Clare Foster

No One Talks About This Stuff: Twenty-Two Stories of Almost Parenthood
Kat Brown (Golygydd)
Title available in English only / Teitl ar gael yn Saesneg yn unig
Adnoddau digidol
Gwybodaeth a chefnogaeth i rieni ar golli beichiogrwydd a cholli baban gan gynnwys camesgor, marw-enedigaeth a genedigaeth gynamserol.
Ffôn: 0800 0147 800 (Llun – Gwener: 9am – 5pm)
Gwybodaeth a chymorth i unrhyw un sydd wedi cael ei effeithio gan golli beichiogrwydd neu farwolaeth babi cyn, yn ystod neu’n fuan ar ôl geni.
Ffôn: 0808 164 3332
Ydych chi wedi defnyddio llyfr Darllen yn Well i deuluoedd?
Cefnogir Darllen yn Well i Deuluoedd gan:
Action on Postpartum Psychosis, Association for Infant Mental Health, Association for Post-Natal Illness, British Psychological Society, Centre for Mental Health, Institute of Health Visiting, MASIC Foundation, Maternal Mental Health Alliance, Maternal OCD, Mental Health Foundation, Mind, National Association of Primary Care, NHS Wales Executive, PANDAS Foundation, Parent-Infant Foundation, Patient Information Forum, Royal College of General Practitioners, Royal College of Nursing, Royal College of Psychiatrists, Sands, The Motherhood Group, Tommy’s.