LGBTQ+ people have more options than ever before when it comes to starting a family, but a lack of both focused information and mainstream representation can leave parents, prospective parents, friends and relatives in the dark.
Authors Lotte Jeffs and Stu Oakley spoke to dozens of experts and queer families, and this hugely-needed book is the product of those conversations and their own experiences of becoming parents through IUI and adoption respectively.
90% of queer parenting is just . . . parenting, but being LGBTQ+ when you’re a parent does bring with it a host of conundrums that mainstream guides – which tend to assume heterosexuality – do not address. From adoption, surrogacy, fertility treatment and other routes to parenthood, to donors, trans parenting, how to deal with family-focused homophobia, coming out at the school gates and much more, The Queer Parent is a groundbreaking toolkit for LGBTQ+ parents, parents-to-be, and anyone looking to support their journey. It is a book that redefines the family for the modern age.
——-
Mae gan bobl LHDTC+ fwy o opsiynau nag erioed o’r blaen o ran dechrau teulu, ond gall diffyg gwybodaeth benodol a chynrychiolaeth prif ffrwd adael rhieni, darpar rieni, ffrindiau a pherthnasau yn y tywyllwch.
Siaradodd yr awduron Lotte Jeffs a Stu Oakley â dwsinau o arbenigwyr a theuluoedd cwiar, ac mae’r llyfr mawr ei angen hwn yn gynnyrch y sgyrsiau hynny a’u profiadau eu hunain o ddod yn rhieni trwy IUI a thrwy fabwysiadu baban.
Mae 90% o fagu plant gan bartneriaid cwiar yn golygu … magu plant, ond mae bod yn LHDTC+ pan rydych chi’n rhiant yn dod â sawl penbleth nad yw canllawiau prif ffrwd – sy’n tueddu i gymryd heterorywioldeb yn ganiataol – yn mynd i’r afael â nhw. O fabwysiadu, mamau benthyg, triniaeth ffrwythlondeb a llwybrau eraill i fod yn rhiant, i roddwyr, magu plant traws, sut i ddelio â homoffobia sy’n canolbwyntio ar y teulu, dod allan wrth giatiau’r ysgol a llawer mwy, mae The Queer Parent yn becyn cymorth arloesol ar gyfer rhieni LHDTC+, darpar rieni, ac unrhyw un sy’n dymuno cefnogi eu taith. Mae’n llyfr sy’n ailddiffinio’r teulu ar gyfer yr oes fodern.
Get our newsletters to stay up to date with programme news, resources, news and more.