Severe anxiety affects a huge number of women in pregnancy and the postnatal period, making a challenging time even more difficult. You may be suffering from uncontrollable worries about pregnancy and birth, distressing intrusive thoughts of accidental or deliberate harm to the baby, or fears connected to traumatic experiences. This practical self-help guide provides an active route out of feeling anxious. Step-by-step, the book teaches you to apply cognitive behaviour therapy (CBT) techniques in the particular context of pregnancy and becoming a new parent in order to overcome maternal anxiety in all its forms. Working through the book you will gain understanding of your anxiety and how factors from the past and present may be playing a role in how you feel.
——-
Mae gorbryder difrifol yn effeithio ar nifer enfawr o ferched yn ystod beichiogrwydd a’r cyfnod ôl-enedigol, gan wneud adeg heriol hyd yn oed yn fwy anodd. Efallai eich bod yn dioddef o bryderon na ellir eu rheoli am feichiogrwydd a genedigaeth, meddyliau ymwthiol o niwed damweiniol neu fwriadol i’r babi, neu ofnau sy’n gysylltiedig â phrofiadau trawmatig. Mae’r canllaw hunangymorth ymarferol hwn yn darparu llwybr gweithredol i oresgyn teimlo’n orbryderus. Cam wrth gam, mae’r llyfr yn eich dysgu i gymhwyso technegau therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) yng nghyd-destun penodol beichiogrwydd a dod yn rhiant newydd er mwyn goresgyn pryder mamau yn ei holl ffurfiau. Drwy weithio drwy’r llyfr, byddwch yn meithrin dealltwriaeth o’ch gorbryder a sut gallai ffactorau o’r gorffennol a’r presennol chwarae rhan yn y ffordd rydych chi’n teimlo.
Get our newsletters to stay up to date with programme news, resources, news and more.