If you are watching your partner, daughter, sister or friend struggle through postnatal depression (PND) it can leave you feeling powerless and unsure how best to help. This book shows you how to best support your loved one in this overwhelming and frightening time.
Specialist maternal mental health psychologist Dr Jenn Cooper first explains what PND is and what it might look like. In many cases, the initial challenge is identifying that your loved one is struggling with something more than the ‘baby blues’. Often mothers simply don’t have the capacity to notice that what they’re feeling is beyond the ‘normal’. So, that is where you, as their support system, come in – with the benefit of some distance and objectivity that will allow you to see more clearly whether mum might be struggling.
Dr Cooper then moves on to equip you with practical strategies to help your loved one, drawing on insights from mums with lived experience of PND. Through the advice in this book, you will learn how you can play a vital role in your loved one’s recovery and, ultimately, help them enjoy motherhood in the way they deserve.
——-
Os ydych chi’n gwylio eich partner, merch, chwaer neu ffrind yn cael trafferth gydag iselder ôl-enedigol (PND), gall wneud i chi deimlo’n ddi-rym ac yn ansicr ynghylch y ffordd orau o helpu. Mae’r llyfr hwn yn dangos i chi sut i gefnogi eich anwylyd orau yn yr amser llethol a brawychus hwn.
Mae’r seicolegydd iechyd meddwl arbenigol sy’n arbenigo mewn mamolaeth, Dr Jenn Cooper, yn egluro yn gyntaf beth yw PND a sut gallai edrych. Mewn llawer o achosion, yr her gychwynnol yw nodi bod rhywun agos atoch yn cael trafferth gyda rhywbeth sy’n fwy na’r ‘felan babi’. Yn aml nid oes gan famau y gallu i sylwi bod yr hyn maent yn ei deimlo y tu hwnt i’r ‘normal’. Felly, dyna lle rydych chi, fel eu cefnogaeth, yn camu i’r adwy – gyda manteision rhywfaint o bellter a gwrthrychedd a fydd yn eich galluogi i weld yn gliriach a allai mam fod yn ei chael hi’n anodd.
Yna mae Dr Cooper yn symud ymlaen i roi strategaethau ymarferol i chi er mwyn helpu’r un sy’n annwyl i chi, gan dynnu ar farn mamau sydd â phrofiad byw o PND. Drwy’r cyngor yn y llyfr hwn, byddwch yn dysgu sut y gallwch chwarae rhan hanfodol yn adferiad eich anwylyd ac, yn y pen draw, ei helpu i fwynhau bod yn fam yn y ffordd y mae’n ei haeddu.
Get our newsletters to stay up to date with programme news, resources, news and more.