Few experiences can compare to the trauma and pain of losing a baby; and the wall of silence that often surrounds that loss can make grieving even harder.
Loving You From Here explores the traumatic impact of losing a baby through stillbirth and neonatal death. It features the moving stories of multiple families; some affected recently, some decades ago, but still living with the loss. This book is a practical guide for grieving parents in the grips of tragedy, and those around them who want to be able to offer support. From managing those initial feelings of shock, grief, guilt and anger, this book will also show families how it is possible to grow around that grief and eventually form an enduring bond with their baby.
This profound and insightful book will help everyone impacted by the loss of a baby – before, during or after birth – including those who have suffered an early or a late miscarriage and those who have had an ectopic pregnancy, and provides sensitive and reassuring advice on all aspects of loss and bereavement, as well as practical advice on how to find a new normal.
——-
Ychydig iawn o brofiadau all gymharu â’r trawma a’r boen o golli babi; ac mae’r wal o dawelwch sy’n aml yn amgylchynu’r golled honno yn gallu gwneud galaru hyd yn oed yn galetach.
Mae Dy Garu Di o Fama yn archwilio effaith trawmatig colli babi drwy farw-enedigaeth a marwolaeth newydd-enedigol. Mae’n cynnwys straeon teimladwy sawl teulu; rhai yr effeithowyd arnynt yn ddiweddar, eraill yr effeithiwyd arnynt ddegawdau yn ôl, ond sy’n dal i fyw gyda’r golled. Mae’r llyfr hwn yn ganllaw ymarferol i rieni sy’n galaru yn wyneb trasiedi, a’r rhai o’u cwmpas sydd am allu cynnig cefnogaeth. O reoli’r teimladau cychwynnol hynny o sioc, galar, euogrwydd a dicter, bydd y llyfr hwn hefyd yn dangos i deuluoedd sut mae’n bosibl tyfu o amgylch y galar hwnnw ac yn y pen draw ffurfio bond parhaus gyda’u babi.
Bydd y llyfr dwys a chraff hwn yn helpu pawb y mae colli babi yn effeithio arnynt – cyn, yn ystod neu ar ôl rhoi genedigaeth – gan gynnwys y rhai sydd wedi colli babi’n gynnar neu’n hwyr a’r rhai sydd wedi cael beichiogrwydd ectopig. Mae’n rhoi cyngor sensitif a thawelwch meddwl ar bob agwedd ar golled a phrofedigaeth, yn ogystal â chyngor ymarferol ar sut i ddod o hyd i normalrwydd newydd.
Get our newsletters to stay up to date with programme news, resources, news and more.